Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru, ar 1 Hydref 2018. Ochr yn ochr â’r byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, mae gan AaGIC rôl arweiniol ym maes addysgu, hyfforddi, datblygu a dylanwadu ar y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Ymhlith ei swyddogaethau allweddol mae: addysg a hyfforddiant, datblygu a moderneiddio’r gweithlu, datblygu arweinwyr, cynllunio’r gweithlu yn strategol, gwybodaeth am y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.
Health Education and Improvement Wales (HEIW) is a special health authority within NHS Wales that was established on 1 October 2018. Sitting alongside health boards and trusts, HEIW has a leading role in the education, training, development, and shaping of the healthcare workforce in Wales. Its key functions include: education and training, workforce development and modernisation, leadership development, strategic workforce planning, workforce intelligence, careers, and widening access.